YMGYRCHU DROS GAERDYDD GRYFACH, DECACH A GWYRDDACH
Y bygythiad mwyaf i heddwch y byd yw newid yn yr hinsawdd. Ni ellir ei ymladd gyda bwledi, ond gallai penderfyniadau a wnawn yn ein bywydau bob dydd helpu i achub ein planed. Cerdded, beicio, dal y bws ar gyfer teithiau byr; diffodd y tap wrth frwsio ein dannedd; inswleiddio ein cartrefi; y bwyd rydyn ni’n ei fwyta – o ble mae’n dod? Sut cafodd ei gynhyrchu? Mae’r rhain i gyd yn ddewisiadau sydd naill ai’n helpu neu’n niweidio’r blaned.
CLWB GARDDIO POWERHOUSE HYB
Llongyfarchiadau i’r grŵp o wirfoddolwyr sy’n tyfu cyfoeth o lysiau a pherlysiau yng nghefn y Powerhouse i gynyddu argaeledd bwyd da yn eu cymuned leol. Diolch i’r staff yn y Powerhouse am eu cefnogaeth.
Fe wnaeth arwerthiant planhigion dros ben ym Maelfa ym mis Mehefin ddigon o arian i dalu am gost hadau’r flwyddyn nesaf, felly mae hwn yn brosiect allai dyfu a thyfu.
Eisiau gwybod mwy? Galwch heibio’r Powerhouse ar fore Mawrth a Gwener i weld pa mor hawdd yw tyfu’ch planhigion eich hun. Mae’n blasu’n llawer gwell hefyd.
Rwy’n siarad yn rheolaidd yn y Senedd am frwydr llawer o deuluoedd i fwyta’n dda. Mae rhai’n gaeth i “fwyd” wedi’i brosesu helaeth sy’n cael ei werthu gan gwmnïau bwyd enfawr sydd ond am wneud i ni wario mwy o arian gyda nhw. Mae’r rhan fwyaf o brydau parod yn llawn ychwanegion sydd ar ben llwyth o siwgr, halen a braster – dyma’r prif bethau sy’n ysgogi gordewdra a marw’n ifanc.
TEITHIO LLESOL
Mae cerdded a beicio’n ffyrdd gwych o’n gwneud ni’n iachach ac yn hapusach, gwella’r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu a gwneud ein cymunedau’n lleoedd brafiach i fyw ynddyn nhw. Mae arweinyddiaeth dda gan Ysgol Gynradd Parc y Rhath, mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd, Sustrans a Cycle UK wedi arwain at 90% o ddisgyblion yn cerdded neu’n beicio i’r ysgol. Erbyn hyn hi yw’r ysgol orau ond dwy yng Nghaerdydd ar gyfer teithio llesol, a’r 3ydd yng Nghymru- Da Iawn!
Anogwch eich ysgol leol i groesawu teithio llesol. Mae’n gwella iechyd disgyblion a’u parodrwydd i ddysgu, ac yn lleihau llygredd aer ar ein strydoedd.
Mae’r llwybr beicio ar Deras Cathays, wedi’i amgylchynu gan flodau gwyllt yn newyddion gwych i adar a phryfed hefyd yn ogystal â phobl.
MAE DIDOLI SBWRIEL AR STEPEN Y DRWS YN GWNEUD ARIAN I NI
Mae Pen-y-lan ac Adamsdown bellach yn helpu Cyngor Caerdydd i gynyddu ei gyfradd ailgylchu drwy wahanu gwydr, tun a phlastig oddi wrth bapur a chardfwrdd ar stepen y drws, gan ddilyn esiampl y mabwysiadwyr cynnar yn Llanedern a Phentwyn.
Bydd pob cartref yng Nghaerdydd yn defnyddio’r bagiau glas a choch erbyn diwedd 2024. Yna, dylai 70% o holl wastraff Caerdydd gael ei ailgylchu, sef targed Cymru gyfan.
Mae’r lluniau’n dweud y cyfan: mae papur, cardfwrdd, plastig a gwydr wedi’u gwahanu sydd heb eu halogi gan gynhyrchion eraill yn arbed arian i ni yn hytrach na chreu cost i gynghorau i dalu am losgi. Ni all yr un awdurdod lleol fforddio gohirio cyflwyno ailgylchu stepen y drws. Mae busnesau’n codi tua £30 y dunnell i losgi deunydd ailgylchu halogedig, tra bod cwmnïau arbenigol yn talu £80-110 y dunnell am wydr a chardfwrdd wedi’u gwahanu.
Mae Cymru eisoes yn 2il yn y byd (ar ôl Awstria) o ran ailgylchu. Gallwn chwarae ein rhan i achub ein planed trwy ddod yn arweinydd byd.
TAI, TAI, TAI!
Mae llawer gormod o deuluoedd yng Nghaerdydd yn byw mewn llety rhent preifat ansicr, gan aros blynyddoedd i gael cartref parhaol. Mae Llywodraeth Cymru’n adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu dros y 5 mlynedd hyd at 2026. Yn y flwyddyn gyntaf adeiladwyd 3,369 o dai newydd. Mae’r rhain yn cynnwys 9 cartref teuluol yn Stryd Croft wedi’u hadeiladu gan Gyngor Caerdydd. Mae’r YMCA wedi adeiladu 18 o gartrefi ar gyfer pobl sengl.
Mae cwmnïau adeiladu bach yn cael eu hannog i adeiladu at safonau tai cymdeithasol uwch fel y gallant gael prynwr parod yn Llywodraeth Cymru. Mae buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i sbarduno twf economaidd. Bydd Llywodraeth Lafur newydd y DU yn adeiladu mwy o gartrefi yn Lloegr a allai olygu mwy o arian ar gyfer adeiladu tai yng Nghymru hefyd.
Gall pawb gael cyngor effeithlonrwydd ynni AM DDIM ar 0808 8082244. Mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn rhoi grantiau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref i aelwydydd sy’n ennill cyflogau llai na’r cyfartaledd. Defnyddiwch y linc isod i wirio a ydych chi’n gymwys.
DIGARTREFEDD
Nod Llywodraeth Cymru yw atal pobl rhag mynd yn ddigartref, neu ei wneud yn beth anghyffredin, am gyfnod byr ac nad yw’n digwydd eto. Mae Caerdydd yn croesawu’r polisi hwn eisoes, a bydd Bil Digartrefedd newydd yn ei gynnwys yn y gyfraith cyn bo hir. Ydych chi’n gweld rhywun yn cysgu allan? Anfonwch neges destun at ‘REALCHANGE’ i 80800 gan roi lleoliad y person fel y gellir cynnig help iddo.
BLAENORIAETHU GOFAL SYLFAENOL
Yn 2021, buddsoddodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, fwy o arian mewn gofal sylfaenol i ddod â’r ras 8am am apwyntiadau meddyg teulu i ben. Erbyn hyn mae 95% o feddygfeydd yn darparu dewis o apwyntiadau, gydol y diwrnod gwaith. Cysylltwch â mi os nad yw hyn yn wir o’ch profiad chi.
Y tu allan i oriau: mae GIG 111 ar gael 24 awr y dydd a gall ddarparu cyngor os ydych chi’n teimlo’n sâl ac nad ydych chi’n gwybod beth i’w wneud. Ar gyfer y llinell iechyd meddwl benodol, ffoniwch 111 Pwyswch 2.
Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol: mae bron pob fferyllfa yng Nghymru yn darparu cyngor a thriniaeth am ddim bellach ar gyfer anhwylderau cyffredin, gan gynnwys y bilsen drannoeth, cyflenwadau brys o feddyginiaethau, atal cenhedlu geneuol a brechiadau ffliw.
SENEDD
GWAITH PWYLLGOR
Rwy’n cadeirio’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sydd â chylch gwaith eang wrth graffu ar waith cyrff cyhoeddus. Gwasanaethais hefyd ar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith o fis Mai 2021 tan fis Mawrth 2024. Yn ddiweddar, ymunais â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
Rwy’n siarad yn rheolaidd yn y Siambr am addysg, diogelwch bwyd ac iechyd yn ogystal ag unrhyw faterion sy’n effeithio arnom ni yng Nghanol Caerdydd fel cerddoriaeth, chwaraeon ac adfer canol ein trefi.
YMWELWYR YSBRYDOLEDIG ÂR SENEDD
Roedd yr Arglwydd Deben yn Gadeirydd ysbrydoledig ar Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, rhwng 2011 a 2023, lle bu’n cyfrannu’n rheolaidd at waith ein Pwyllgor Newid Hinsawdd. Ni lwyddodd gwleidyddiaeth beri rhwystr erioed i ddwyn pob un o’r pedair llywodraeth i gyfrif am y camau neu’r diffyg gweithredu sydd eu hangen nawr i gyflawni ein rhwymedigaethau Carbon Sero Net 2050.
Atgoffodd y Brenin Charles ni yn nathliad Pen-blwydd y Senedd yn 25 oed fod dyletswydd ar bob gwleidydd i weithredu i amddiffyn ein planed sydd dan fygythiad. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Lafur newydd y DU sy’n cymryd bygythiad yr hinsawdd o ddifrif.
Roedd yn bleser croesawu’r Arglwydd Deben yn ôl i’r Senedd ym mis Mai fel siaradwr gwadd mewn digwyddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Daeth Eva Clarke i’r Senedd ym mis Ionawr i’n helpu i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost. Anfonwyd rhieni Eva i Auschwitz ym 1944, ar ôl tair blynedd yn geto Prague. Cafodd ei thad Bernd Nathan ei saethu ym mis Ionawr 1945, ychydig cyn rhyddhau Auschwitz gan y fyddin Sofietaidd. Cuddiodd ei mam Anka Bergman ei beichiogrwydd (byddai darganfod hynny wedi golygu marwolaeth ar unwaith) a rhoddodd enedigaeth i Eva wrth gatiau gwersyll crynhoi Mauthausen ym mis Ebrill 1945, ychydig cyn ei ryddhau.
Ymgartrefodd Eva a’i mam yng Nghymru ym 1948. Mynychodd Eva Ysgol Gynradd Rhydypennau ac arhosodd yng Nghaerdydd nes iddi briodi.
Mae’r Lt. Col. Crispin Black yn arwain yr ymgyrch 42 mlynedd dros gyfiawnder i’r Gwarchodlu Cymreig ac eraill a laddwyd pan fomiwyd RFA Sir Galahad yn ystod rhyfel y Falklands.
Mae dadansoddiad manwl Crispin Black o’r digwyddiadau a arweiniodd at y trychineb pan gollwyd y nifer uchaf o fywydau mewn un diwrnod o weithredu milwrol ers yr Ail Ryfel Byd yn gofyn cwestiynau difrifol am y camgymeriadau gwleidyddol a milwrol a wnaed.
Mae goroeswyr a pherthnasau wedi cael gwybod na fydd y dystiolaeth lawn yn cael ei chyhoeddi tan 2065, ac erbyn hynny bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi marw. Mae llawer o Aelodau o’r Senedd yn cefnogi eu hymgyrch i ddatgelu’r gwir.
CYMRU, GWLAD CÂN A NODDFA
Gadewch i ni ddathlu Cymru fel Cenedl Noddfa, gan wrthwynebu negeseuon gwrth-fewnfudo gwenwynig y dde eithaf. Mae Caerdydd yn gymuned amlddiwylliannol wych, sy’n cyfoethogi cymaint ar ein diwylliant, ac yn fraint i mi ei chynrychioli. Cafodd hanner y meddygon a’r nyrsys sy’n gwasanaethu yn ein gwasanaeth iechyd eu geni y tu allan i’r DU.
Mae mor wych bod Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, yn fenyw Iracaidd hynod dalentog o Gymru, ac mai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw Joseff Gnagbo, cyn-geisiwr lloches o’r Traeth Ifori.
CADW’N DDIOGEL YN Y DWR
PWLL PENTWYN
Ar ôl ymgyrch hir gan y gymuned i achub Pwll Pentwyn, mae disgwyl i Gyngor Caerdydd ddyfarnu contract i adeiladu pwll 25 metr newydd erbyn mis Hydref 2024, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau yn haf 2025. Gyda chymorth grant o £400,000 gan Lywodraeth Cymru, bydd y pwll yn cael ei gynhesu gan baneli solar a phwmp gwres ffynhonnell aer, i gadw biliau ynni’n isel a bodloni gofynion allyriadau carbon sero-net
Mae arolwg gan Nofio Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi Caerdydd ar waelod y dosbarth ar gyfer nofio gyda dim ond 1 o bob 6 neu 7 o blant yn gallu nofio (16%), sy’n golygu mai Caerdydd yw’r ardal sy’n perfformio isaf yng Nghymru. Bydd ailagor pwll Pentwyn yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwn yn sgiliau sylfaenol pobl ifanc am oes. Mae angen i bob disgybl ddysgu nofio fel rhan o’u hawl cwricwlwm.
Tra bod Pwll Pentwyn yn parhau i fod ar gau, mae Better Leisure Services wedi cytuno i ailagor Campfa Canolfan Hamdden Pentwyn yn raddol, i gynnal dosbarthiadau a gweithgareddau ymarfer corff i bobl ifanc ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau ieuenctid y trydydd sector i ddarparu gweithgareddau am ddim i bobl ifanc. Defnyddiwch y linc isod am mwy o wybodaeth.
LLONGYFARCHIADAU JO!
Cafodd Jo Stevens AS ei hail-ethol gyda mwyafrif ysgubol i gynrychioli etholaeth newydd Dwyrain Caerdydd. Llongyfarchiadau ar benodiad Jo i Gabinet y DU fel Ysgrifennydd Cymru. Mae’r newidiadau i ffiniau’n golygu bod Cathays yn cael ei chynrychioli yn Senedd y DU gan Stephen Doughty AS erbyn hyn. Rwy’n parhau i gynrychioli Cathays yn y Senedd.